Rhif y ddeiseb: P-06-1372

 

Teitl y ddeiseb: Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

 

Geiriad y ddeiseb:  Gwasanaeth bysiau lleol yw “fflecsi Bwcabus.” Mae’n gwbl hygyrch ac yn gweithredu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru gan gynnig cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a siwrneiau y gellir eu harchebu ymlaen llaw. Nod “fflecsi Bwcabus” yw helpu pobl i deithio’n lleol a chysylltu â gwasanaethau bysiau’r brif lein.  Rydych yn gofyn i fws eich codi a gall hwnnw newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr gyrraedd lle bynnag y mae angen iddynt fynd.

 

Cafodd “fflecsi Bwcabus” ei greu i ddisodli gwasanaethau bysiau cymunedol lleol. Mae pobl mewn cymunedau gwledig yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn i weld y meddyg teulu neu i gyrraedd y gweithle, i fynd i siopa a chwrdd â ffrindiau. Mae’r gwasanaeth yn rhan hanfodol o’n cymunedau gwledig ac, i lawer, dyma’r unig ffordd y gallant deithio o le i le a bydd nifer o bobl oedrannus yn ynysig iawn os na fydd y gwasanaeth yn parhau.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Bwcabus – bellach Fflecsi Bwcabus - yn wasanaeth bysiau sy'n ymateb i'r galw. Mae’n cysylltu cymunedau gwledig â phrif wasanaethau bysiau yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Mae’r cynllun wedi cael ei ariannu gan nifer o ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Sefydlwyd y gwasanaeth gyda mewnbwn gan yr Athro Stuart Cole yn 2009. Ers hynny, mae nifer o wasanaethau bws eraill o’r math hwn wedi cael eu datblygu o dan yr enw Gwasanaeth Fflecsi.

Ym mis Medi, cyhoeddwyd y byddai gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben ar 31 Hydref oherwydd diffyg arian. Esgorodd hyn ar bryderon gan deithwyr rheolaidd sy'n dweud eu bod yn dibynnu ar y gwasanaeth.

Wrth gyhoeddi diwedd y gwasanaeth, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod hyn yn digwydd am nad oedd Llywodraeth Cymru bellach yn gallu darparu cyllid. Gynt, byddai’r gwasanaeth yn cael ei ariannu o grant drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ond Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ariannu’r gwasanaeth yn llawn ers i gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ddod i ben ym mis Gorffennaf 2023.

Yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'r gwasanaeth yn dod i ben, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn ymateb i gwestiynau amserol yn y Cyfarfod Llawn:

Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben… mae Llywodraeth y DU wedi methu rhoi cyllid newydd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gwledig a gâi eu cefnogi'n flaenorol gan yr UE. Felly, ni allwn barhau i gefnogi Bwcabus, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar archwilio opsiynau amgen…

…Nid oes angen fy mherswadio ynglŷn â pha mor werthfawr ydyw. Y cyfan sydd ei angen arnaf yw arian i'w barhau, ac… rwy'n ofni nad yw'r arian hwnnw gennyf.

Ar 10 Hydref, cyhoeddwyd bod Cyngor Sir Penfro wedi llwyddo i gaffael gwasanaeth newydd i sir Benfro o'i gyllideb ei hun. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024, ond nid yw dyfodol y gwasanaeth yn hysbys ar gyfer y tymor hwy.

 

Ariannu a diwygio ehangach i wasanaethau bysiau

Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth brys i’r diwydiant bysiau ers i nifer y teithwyr gwympo o ganlyniad i’r pandemig. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd £46 miliwn i gefnogi gwasanaethau hyd at fis Mawrth 2024. Yn y datganiad a gyhoeddodd y cyllid hwn, cyfeiriwyd hefyd at ddatblygu “model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy'n pontio'r bwlch i fasnachfreinio”. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwynosystem Cymru gyfan o fasnachfreinio drwy Fil gwasanaethau bysiau newydd yn ystod y Senedd hon (h.y. 2023-24).

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd, mae’r Dirprwy Weinidog yn amlinellu bod Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal gwerthusiad o’r cynllun, gan gynnwys ei gostau gweithredu a’r galw gan deithwyr. Mae’n dweud:

…mae'r galw gan deithwyr am y gwasanaeth yn parhau i fod yn isel iawn - fel arfer dim ond un teithiwr sy'n cael ei gludo fesul awr fesul cerbyd. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod contractau gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben yn fuan, a'r gost a ragwelir o ddisodli'r rhain ar sail 'tebyg am debyg' hefyd yn edrych yn afresymol o ddrud.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Cyfeiriodd sawl Aelod at sefyllfa gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn ystod dadl Plaid Cymru ar wasanaethau bws ar 4 Hydref. Ni dderbyniwyd cynnig Plaid Cymru, a oedd yn cynnwys galwad ar Lywodraeth Cymru i adfer y gwasanaeth, nac ychwaith welliant y Llywodraeth.

Ar 13 Hydref, cyflwynwyd cwestiwn ysgrifenedig gan Andrew R.T. Davies AS a ofynnodd a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ail-bwrpasu cyllid er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth barhau i weithredu. Nid oedd ymateb wedi cael ei ddarparu i’r cwestiwn hwn ar adeg paratoi'r briff hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.